top of page

Y PWYLLGOR

GWILYM TUDUR - CADEIRYDD
Helo! Gwilym ydw i a fi yw cadeirydd pwyllgor Y Gorlan. Dw i’n briod gydag Alexandra a ‘da ni’n byw yn nhref hyfryd Aberystwyth. ‘Da ni’n aelodau yn eglwys Seion, Aberystwyth, a dw i newydd gychwyn ar fy ngwaith fel gweinidog yr eglwys hon ac eglwys Bethel, Tal-y-bont. Dw i wedi bod yn rhan o dîm y Gorlan ers sawl blwyddyn bellach! Dw i mor ddiolchgar am yr holl gyfleoedd mae Duw wedi rhoi i’r Gorlan i rannu’r newyddion da am Iesu gyda’r Cymry Cymraeg. Er ei bod hi’n flwyddyn heriol ac anodd, dwi’n edrych ymlaen at gael cydweithio gyda gweddill y pwyllgor i rannu am yr Un wnaeth gyhoeddi “Myfi yw’r Ffordd, y Gwirionedd, a’r Bywyd” (Ioan 14:6) wrth fyd sydd wirioneddol ei angen.

GRUFFYDD DAVIES - Trysorydd
Helo! Gruff ydw i, fi yw ysgrifennydd pwyllgor y Gorlan a dw i'n briod efo Eleri, y trysorydd! Rydan ni'n byw ym Mhenrhyndeudraeth ac yn aelodau o Eglwys Efengylaidd Ardudwy. Dw i'n weithiwr ieuenctid i elusen Gristnogol Trobwynt yn ogystal â bod yn fyfyriwr ymchwil ôl-radd. Dw i wedi cael y fraint o fod ynglŷn â gwaith y Gorlan ers blynyddoedd a fy ngweddi yw y bydd y Gorlan eto yn rhoi llwyfan i Gristnogion ifanc rannu am yr Arglwydd a'r Gwaredwr bendigedig sydd gennym yn Iesu Grist, ac y bydd yna Gymry yn ymateb i wahoddiad yr efengyl. "Dewch ataf fi, bawb sy'n flinedig ac yn llwythog, ac fe roddaf fi orffwystra i chwi." – Iesu yn Mathew 11:28

ELERI DAVIES - Trysorydd
Helo! Fy enw i yw Eleri, dwi'n 22 oed ac yn byw ym Mhenrhyndeudraeth. Fy ngwaith llawn amser yw bod yn archwilydd ariannol. Dwi’n edrych ymlaen i gael bod yn rhan o bwyllgor y Gorlan. Fi fydd y trysorydd blwyddyn yma felly ‘dw i am fod yn gyfrifol o’r ochr ariannol. ‘Dw i wir yn edrych ymlaen i gymryd rhan yn trefnu gwaith Y Gorlan dros y blynyddoedd sydd i ddod.

LEWIS BRUNT - Swyddog Rhaglen
Shwmae bawb, Lewis ydw i. Dwi’n 23 mlwydd oed ac yn byw yn Llundain ar hyn o bryd! Dwi’n gyffrous i gael bod yn rhan o’r Gorlan fel Swyddog Raglen eleni. Mae’n gyffrous gallu rhannu newyddion da Iesu Grist efo’r Cymry Cymraeg!

ELIN BRYN - Swyddog Tîm
Helo! Fy enw i ydy Elin, ‘dw i’n 25 oed ac yn byw ym Mangor. Ar hyn o bryd ‘dw i’n gweithio hefo Undebau Cristnogol mewn Prifysgolion yma yng Nghymru. Fi ydy’r Swyddog Tîm ar bwyllgor Y Gorlan, felly, os hoffech chi wybod sut i fod yn rhan o’r tîm, teimlwch yn rhydd i gysylltu â mi! ‘Dw i’n edrych ymlaen yn fawr i weld sut fydd Y Gorlan yn datblygu yn ei gwaith o rannu’r newyddion da am Iesu Grist yn y blynyddoedd nesaf yma. ☺️


SIWAN FFLUR - Swyddog Marchnata
Helo bawb! Fy enw i yw Siwan, dwi'n 20 oed ac yn byw yn Llundain ar hyn o bryd yn gweithio fel "nanny". Dwi yn gyffrous i gael bod yn rhan o bwyllgor y Gorlan a chymryd cyfrifoldeb o'r ochr marchnata, dylunio, a'r cyfryngau cymdeithasol! Dwi'n edrych ymlaen i weld beth sydd yn rhan o gynllun Duw ar gyfer y Gorlan dros y blynyddoedd nesaf.

TOMOS GWYNFOR
Siwmai! Tomos ydw i, dwi'n 17 ac yn byw yn Llanuwchllyn ger Bala, yn gorffen fy mlwyddyn olaf yn yr ysgol yn gwneud fy Lefel A! Dwi'n gyffrous i fod yn rhan o bwyllgor Y Gorlan am y tro cyntaf blwyddyn yma i trafod syniadau efengylu i bobl ifanc Cymru! Dwi'n edrych mlaen i weld sut ma Duw am ddefnyddio'r Gorlan trwy gydol y flwyddyn yma!
bottom of page