Stori Elen :)

"Helo! Enw fi di Elen, dwi’n 24 mlwydd oed ac yn wreiddiol o Morfa Nefyn. Erbyn hyn dwi’n byw yn Abertawe efo fy nghŵr, Alun, ac yn aelod yn Gomer. Mae bywyd wedi newid lot yn ystod y pandemic - dwi wedi prynnu tŷ, priodi, symud i fyw, a dechra gradd newydd mewn Cwnsela. Mae o di bod yn rollercoaster llwyr! Ond da chi’n gwbod be sy di bod yn rhywbeth cyson, cysurus trwy’r holl beth? Duw.
Mi ddois i’n Gristion tua pythefnos cyn fy mhenblwydd yn 15 oed, ar ôl dod adra o Cwrs Ieuenctid yn Coleg y Bala a sylwi nad oeddwn i’n Gristion... oni jesd yn Gymraeg, a wedi mynd i ysgol sul fel plentyn, a doedd hyna rili ddim yn gneud fi’n Gristion. Oedd gweld am y tro cynta bo fi methu bod yn indifferent am Iesu yn agoriad llygaid. Roedd rhaid i fi wynebu realiti fy nyfodol a gwneud penderfyniad - unai cario mlaen byw fel bod Iesu jesd yn stori NEU cyfadda’r gwir taw mab Duw ydi Iesu, a bod o’n caru fi a bod fi’n sori am droi cefn arna fo. Spoiler alert - yr ail beth ddigwyddodd. Dwi bellach wedi byw 10 mlynadd fel Cristion, a trwy’r ups and downs ma Crist wedi bod yn ffyddlon, yn garedig, yn amyneddgar ac yn “life line” bob dwrnod. Dwi’n dod yn fwyfwy ymwybodol nad ydw i’n haeddu y bywyd hyfryd yma, nac yn haeddu maddeuant gan Dduw - ac eto, dyna dwi wedi ei dderbyn. Gobeithio bod hyn yn roi syniad bach i chi o fy mhrofiad i o nabod Iesu!"
Os wyt ti am wybod mwy, danfona neges neu glicia ar y botwm dilyn. Byddwn ni wrth ein boddau i geisio bod o help os hoffet ti holi unrhywbeth.