top of page

Pam ddaeth IESU?

Updated: Jan 31, 2021



“Ond gwelir (yn ogystal) mai wedi dod i farw y mae Iesu; yn wir, mae pob un o’r Efengylau’n rhoi sylw manwl i ddigwyddiadau ei wythnos olaf ar y ddaear. Drwy ei farwolaeth y cyflawna unwaith ac am byth y gwaith achubol a ymddiriedwyd iddo.” – Y Beibl Canllaw, 2014


Pam ddaeth Iesu i’r byd? Mae’r dyfyniad o’r Beibl Canllaw yn esbonio i ni mai i farw ddaeth Iesu. Ond pam fyddai Duw mawr pwerus eisiau dod i’n byd bach ni er mwyn marw?


Esbonia’r Beibl bod rhaid talu pris am y pethau drwg (pechod) rydyn ni i gyd yn eu gwneud. Mae’r pris am hyn yn ddrud iawn - marwolaeth. Ond, gan fod Duw yn ein caru ni GYMAINT, fe ddaeth e i lawr i’r byd er mwyn talu’r pris am ein bywydau ni, ei hun! Dyma beth a elwir y “gwaith achubol” yn y dyfyniad. Dewisiodd Duw farw, er mwyn i ni gael cyfle i gael ein hachub!


Ond, mae e fyny i ti. Wyt ti am dderbyn y gwahoddiad i gael dy achub? Mae cyfle gennyt ti i ddewis- ai ti sydd am gymryd y cyfrifoldeb am y pethau drwg rwyt ti wedi eu gwneud, neu wyt ti am ymddiried yn Iesu?


Os wyt ti am wybod mwy, danfona neges yma, neu ar ein cyfryngau cymdeithasol neu dilyna ni ar Instagram / Facebook. Byddwn ni wrth ein boddau yn ceisio bod o help os hoffet ti holi unrhywbeth.


13 views0 comments
bottom of page