top of page

GWENER Y GROGLITH


Tua 2,000 o flynyddoedd yn ôl bu farw rhywun er dy fwyn di. Ie- ti !!! Fi’n siŵr ein bod ni i gyd yn ymwybodol bod neb yn berffaith. Mae pawb yn gwneud llanast o bethau weithiau. Mae’r Beibl yn galw’r pethau drwg yma rydyn ni yn ei wneud yn ‘pechod’. Ac mae pechod yn haeddu cosb, sef byth bythoedd yn uffern. Mae hyn yn andros o ofnus i ni fel pobl achos rydyn ni gyd mor ymwybodol o’r holl bethau drwg sydd yn mynd ymlaen yn ein bywydau ni a gweddill y byd. Ond... mae yna newyddion da.

Mae Iesu yn ein caru ni i gyd gymaint, er nad ydym ni yn ei haeddu fe, fel daeth e i lawr i’r byd ei hun er mwyn cymryd y gosb am y pethau drwg rydyn ni wedi ei wneud! Dyna ddigwyddodd ar ddydd Gwener y Groglith cyntaf. Felly, mae yma wahoddiad i chi i roi eich holl obaith yn Iesu, a peidio gorfod derbyn y gosb, profi bywyd yn ei holl gyflawnder a byw byth bythoedd yn y Nefoedd gyda Crist.

Os wyt ti am wybod mwy, danfona neges ar y wefan, ein Facebook, Twitter neu Instagram. Byddwn ni wrth ein boddau i geisio bod o help os hoffet ti holi unrhywbeth.

1 view0 comments

Recent Posts

See All
bottom of page