top of page

Argymhelliad Llyfr - 'Gwneud Marc', Emyr James

Updated: Feb 21, 2021


Mae 'Gwneud Marc' gan Emyr James yn lyfr sydd yn mynd ȃ ti drwy llyfr Marc yn y Beibl. Efengyl yw llyfr Marc, sef un o'r pedwar llyfr yn y Beibl sydd yn mynd ȃ ti gam wrth gam trwy fywyd Iesu. Dyma ffordd wych i gychwyn edrych i mewn i beth roedd Iesu wir yn ei ddysgu, a beth oedd ei neges a'i bwrpas pan ddaeth Iesu, Mab Duw, o'r nefoedd, i fod yn berson o gig a gwaed ar y ddaear yma.


Mae'r hanes yn un anhygoel - un all newid dy fywyd di! Ac mae'r llyfr yma yn un da i esbonio mewn geiriau clir, beth mae'r Beibl yn ei ddweud wrthot ti, yn enwedig os nad oes gen ti lawer o brofiad wrth ddarllen y Beibl.


Os wyt ti am wybod mwy, danfona neges neu glicia ar y botwm dilyn. Byddwn ni wrth ein boddau i geisio bod o help os hoffet ti holi unrhywbeth.


4 views0 comments
bottom of page