
CYFFES FFYDD
Mae ethos y Gorlan yn deillio o’n Cyffes Ffydd a welir isod. Mae’r ethos yn deillio o awydd a chymhelliant i fynegi cariad Crist tuag at y rheini rydym yn eu gwasanaethu oddi allan i’r Gorlan, ac i adlewyrchu’r cariad hwnnw yn fewnol yn ein perthynas â’n gilydd.
Rydym yn credu yn...
-
...yr Un gwir Dduw, sy’n byw’n dragwyddol mewn tri pherson- y Tad, y Mab a’r Ysbryd Glân.
-
...yng nghariad, gras a sofraniaeth Duw yn ei waith yn creu, cynnal, llywodraethu, gwared a barnu’r byd.
-
...yn ysbrydoliaeth ddwyfol ag awdurdod terfynol yr Hen Destament a’r Testament Newydd, gair ysgrifenedig Duw- a’u bod yn gwbl ddibynadwy ar gyfer ffydd ac ymarweddiad.
-
...yn urddas pawb, wedi eu gwneud yn wryw a benyw ar ddelw Duw i garu, i fod yn sanctaidd ac i ofalu am y greadigaeth, eto wedi eu llygru gan bechod, sy’n esgor ar ddialedd a barn ddwyfol.
-
...yn ymgnawdoliad Mab y tragwyddol Dduw, yr Arglwydd Iesu Grist- a anwyd o’r forwyn Fair; yn wir Dduw ac yn wir ddyn, eto heb bechod....yn aberth iawnol Crist ar y groes; yn marw yn ein lle, yn talu dyled pechod a gorchfygu drygioni, a thrwy hynny, ein cymodi â Duw.
-
...yn atgyfodiad corfforol Crist, blaenffrwyth ein hatgyfodiad; yn ei esgyniad at y Tad, ac yn ei deyrnasiad a’i gyfryngdod fel unig Waredwr y byd.
-
...yng nghyfiawnhad pechaduriaid drwy ras Duw yn unig, drwy ffydd Crist.
-
...yng ngweinidogaeth Duw a’r Ysbryd Glan, sy’n ein harwain i edifeirwch, sy’n ein huno a Crist drwy ein hail-eni sy’n nerthu ein cerddediad a galluogi ein tystiolaeth.
-
...yn yr Eglwys, corff Crist, yn lleol a thrwy’r bydysawd, yn offeiriadaeth pob crediniwr- wedi eu bywhau gan yr Ysbryd, a’u bendithio a rhoddion yr Ysbryd i addoli Duw a chyhoeddi’r efengyl, gan hybu cyfiawnder a chariad.
-
...yn nychweliad personol a gweladwy Iesu Grist i gyflawni arfaethau Duw, yr Un fydd yn codi pawb i farn, gan ddwyn bywyd tragwyddol i’r rhai a brynwyd, a chosbedigaeth dragwyddol i’r colledig ac i sefydlu nefoedd newydd a daear newydd.
Mae cymhelliant yr unigolion hynny sy’n gwasanaethu, yn gweithio i, neu yn cymryd rhan yng ngweithgareddau'r Gorlan yn dod ac yn llifo o gyd-destun y ffydd Gristnogol. Fe fydd swyddogaethau sy’n ganolog i ddatblygu a chynnal ein hethos sy’n seiliedig ar y ffydd Gristnogol, bob amser yn cael eu llenwi gan Gristnogion sy’n arwyddo eu cytundeb â’n Cyffes Ffydd. Disgwylir i bobl sy’n gwasanaethu, yn gweithio i, neu yn cymryd rhan yng ngweithgareddau'r Gorlan barchu, cynnal ac ymrwymo i weithio gydag ethos, gwerthoedd ac ymarweddiadau'r Gorlan, sy’n seiliedig ar y ffydd Gristnogol, sydd fel a ganlyn:
-
Trin pawb fel ei gilydd gyda gras, parch, cwrteisi, moesgarwch, maddeuant a thrugaredd.
-
Gonestrwydd a chydweithrediad wrth wasanaethu.
-
Ymrwymiad i stiwardiaeth dda o arian ac adnoddau’r Gorlan.
-
Undod fel un elusen a pharch tuag at awdurdod a thuag at amrywiaeth fel pobl yn gweithio gyda’i gilydd.
Mae’r gwerthoedd a’r ymarweddiadau hyn yn rhan gynhenid o lwyddiant a chyflawniad ein cenhadaeth ac felly mae agwedd a chymhelliant y rhai sy’n gwasanaethu, yn gweithio i, neu yn cymryd rhan yng ngweithgareddau’r Gorlan yr un mor bwysig â’r genhadaeth ei hun. Mae hi’n hanfodol bod yr agweddau a’r ymarweddiadau hyn yn nodweddu gweinidogaeth y Gorlan a disgwyliwn i’r rhai sy’n gwasanaethu, yn gweithio i, neu yn cymryd rhan yng ngweithgareddau’r Gorlan weithredu’n ddidwyll a chyda ffyddlondeb i’n hethos sy’n seiliedig ar y ffydd Gristnogol.
